Prisiau Arbennig i Grwpiau – Ebrill a Mai 2013
Annwyl Drefnydd Teithiau
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – Prisiau Arbennig i Grwpiau – Ebrill a Mai 2012
Mae gardd fwyaf a gorau Cymru yn cynnig prisiau arbennig i weithredwyr bysiau a gwyliau o £5 y person. Y pris arferol ar gyfer grŵp yw £7.50 y person.
Bydd llawer ohonoch wedi ymweld â’r Ardd sydd wedi cael ei disgrifio fel gem brydferth yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru; byddwch chi wedi cerdded ar hyd y mwclis hyfryd o lynnoedd, wedi ymweld â’r Tŷ Trofannol, yr Ardd Ddeufur hanesyddol, wedi ymweld â Bwyty’r Tymhorau sy’n hollol drwyddedig ac wedi blasu’r prydau bwyd dyddiol a wneir o gynhyrchion lleol.
Mae Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster, sy’n gartref i’r casgliad gorau o blanhigion rhanbarthau hinsawdd Ganoldirol y byd, yn dod yn fyw yn ystod Ebrill a Mai. Dyma’r amser mwyaf cyffrous i ymweld â’r em bensaernïol hon pan fydd planhigion yn blodeuo a chaiff ymwelwyr eu croesawu gan arogleuon a golygfeydd anhygoel o wledydd o bell.
Mae gennym ni amserlen sy’n llawn digwyddiadau ar gyfer Ebrill a Mai, sy’n cynnwys ‘Meddyginiaethau ym Mai’, mis o ddathliadau ar Blanhigion am Iechyd; Gŵyl Fwyd Gorllewin Cymru (11 a 12 Mai); yn ogystal â’n gwerthiant planhigion blynyddol, theatr allanol. Cewch hyd i wybodaeth am yr Ŵyl a digwyddiadau eraill ar ein gwefan sef www.gardenofwales.org.uk.
Os nad ydych wedi ymweld â ni eto, neu hyd yn oed os ydych wedi galw heibio o’r blaen, manteisiwch ar y cynnig gwych hwn i grwpiau a byddwch yn ein helpu ni i wneud 2013 yn flwyddyn fythgofiadwy.
Bydd pob gyrrwr bws yn derbyn taleb gwerth £6.95 am bryd o fwyd a thaleb gwerth £2 a ellir ei defnyddio yn siop roddion neu siop blanhigion yr Ardd. Mae hefyd digon o le i barcio am ddim.
++ Ionawr AM DDIM ++ Ionawr AM DDIM ++ Ionawr AM DDIM ++ Ionawr AM DDIM ++ Ionawr AM DDIM ++ Ionawr AM DDIM
Mae mynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn RHAD AC AM DDIM ym mis Ionawr felly pam na wnewch chi ymweliad â ni yn y gaeaf? Mae cymaint i wneud dan do, bydd yn ddiwrnod allan gwych beth bynnag yw’r tywydd. Heb law am y tri phenwythnos gyda digwyddiadau (pan mae mynediad yn £2 yn unig) mae’n rhad ac am ddim i ymweld â’r Ardd.
Cysylltwch â gatehouse@gardenofwales.org.uk i drefnu eich ymweliad neu ffoniwch 01558 667149 os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Cewch groeso cynnes yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth.
Dymuniadau gorau
David H
David Hardy
Head of Marketing and Communications – Pennaeth Marchnata
email / e-bost David.Hardy@gardenofwales.org.uk






