Newyddion
Archive
Popular Tags
Helpwch ni i Osod Record ar gyfer Cylch Tylwyth Teg
Allwch chi’n helpu ni ddod o hyd i gylch tylwyth teg mwyaf Cymru?
Fel rhan o Ddiwrnod Ffwng cyntaf Cymru – a gynhelir yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Hydref 14eg – gofynnir i bawb ar draws Cymru chwilio am gylch tylwyth teg fwyaf y wlad.
Mae’r trefnydd, Bruce Langridge, yn awyddus i alw ar gerddwyr llygad-craff, crwydrwyr, perchnogion tir a thai, a cheidwaid parc, i fesur a chymryd llun yr holl gylchoedd tylwyth teg y gallant ddod o hyd iddynt.
Meddai Bruce, “Efallai y gwelwch un yn eich parc, dôl, coedwig lleol, neu hyd yn oed yn eich gardd. Rhowch wybod imi pa mor llydan ichi’n feddwl yw e, a byddai cymryd llun ohono neu geisio enwi’r fadarchen hefyd yn fanteisiol. Hoffwn gadw cofnod cynyddol o’r cylchoedd i gyd yn arwain at Ddiwrnod Ffwng Cymru, a gobeithio y gallwn gyhoeddi lleoliad y cylch tylwyth teg hysbys mwyaf yng Nghymru yn ystod y diwrnod.”
Yn ystod y diwrnod ei hun, bydd:
- Cyrch cofnodi ffyngau o amgylch yr Ardd a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gyfagos.
- Helfa ffyngau mewn dôl gyforiog o fadarch capiau cŵyr ryngwladol bwysig yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yr Ardd.
- Prancio yng nghylchoedd y tylwyth teg – mynd am dro i leoliadau amlwg y ffyngau yn yr Ardd, gan ddatgelu dirgelion a chyfrinachau gwyddonol a mytholegol Cymreig cylchoedd y tylwyth teg.
- Gweithgareddau teuluol yn gysylltiedig ag ‘O Deyrnas Arall’, arddangosfa gyntaf y DG ar ffyngau sydd ar daith o Ardd Fotaneg Brenhinol Caeredin – gwneud modelau, darlunio, meicrosgopau, printio sborau, cwis, a
- Choginio gyda ffyngau
Bydd arbenigwr ar ffyngau, yr Athro Lynne Boddy, yn rhoi darlith agoriadol Diwrnod Ffwng Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ac i adrodd yn ôl am y ffyngau y dewch chi ar eu traws, cysylltwch â Bruce Langridge ar bruce.langridge@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch Bruce ar 01558 667162.
Bydd mynediad i’r Ardd ar Hydref 14eg 2012 yn rhad ac am ddim i aelodau’r Gymdeithas Fycolegol Brydeinig sydd â phrawf o’u haelodaeth.
Beth felly yw Cylch y Tylwyth Teg?
Yn syml, cylch gweledol neu fwa o fadarch hadol. Y mae’n wybyddus bod tua 60 rhywogaeth yn gwneud hyn, a gallai fod rhai cylchoedd yn gannoedd o flynyddoedd oed. Mae’r cylchoedd yn cael eu ffurfio am wahanol resymau.
Ffurfir nhw’n nodweddiadol pan fo sborau ffyngaidd yn cael eu chwythu i gae lle maen nhw’n egino Mae eu ffilamentau cain, a adnabyddir yn myseliwm, yn lledaenu allan o’r canol mewn patrwm cylchog, ac mae eu ffrwythau’n ymddangos uwchben y ddaear yn ymyl y lledaeniad hwn. Dros y blynyddoedd, mae’r cylch yn tyfu’n fwy a mwy.
Mae cylchoedd eraill yn ymddangos mewn coedwigoedd neu o amgylch coed a llwyni. Mae’r madarch yma yn bwydo ar wreiddiau’r coed, wrth i’w myseliwm ledaenu gan ffurfio cylch o amgylch y goeden neu’r llwyn.








