Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Athrawon

Amser : 9.30 yb – 3.30 yp
Lleoliad : Dan y D?r : Canolfan Ddarganfod D?r Cymru
Ffioedd y Cyrsiau : £60 exc.VAT – yn cynnwys lluniaeth a chinio yn yr Ardd
Tiwtoriaid  :
Staff Addysg yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a thiwtoriaid cysylltiol.
Archebu lle  :  Gallwch archebu lle drwy ffonio’r Adran Addysg yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn uniongyrchol
ebost  :
kbailey@gardenofwales.org.uk
ffoniwch. 01558 667150

(Gallwn drefnu gweithdai i’r ysgol gyfan).

ADCDF   –  Cynradd          
18  Ionawr, 2011

Os ydych eisoes yn  ysgol Baner Werdd neu yn Ysgol Iach, neu’n dechrau ar y daith, bydd y cwrs hwn yn rhoi cymorth ymarferol a chefnogaeth er mwyn gwneud ADCDF yn rhan greiddiol o ethos ac arfer yn eich ysgol, fel sy’n ofynnol gan ADCDF.  Bydd Yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng materion DC a DF, ac ar ba fesurau y bydd angen i ysgolion eu cymryd er mwyn  sicrhau eu bod yn rhan o’r cwricwlwm. Bydd hefyd yn cyflwyno rhai syniadau ar gyfer cynlluniau gwersi a phrosiectau ysgol gyfan.

ADCDF  -  Uwchradd            
21  Ionawr, 2011

Os ydych eisoes yn  ysgol Baner Werdd neu yn Ysgol Iach, neu’n dechrau ar y daith, bydd y cwrs hwn yn rhoi cymorth ymarferol a chefnogaeth er mwyn gwneud ADCDF yn rhan greiddiol o ethos ac arfer yn eich ysgol, fel sy’n ofynnol gan ADCDF.  Bydd Yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng materion DC a DF, ac ar ba fesurau y bydd angen i ysgolion eu cymryd er mwyn  sicrhau eu bod yn rhan o’r cwricwlwm. Bydd hefyd yn cyflwyno rhai syniadau ar gyfer cynlluniau gwersi a phrosiectau ysgol gyfan.

Tyfu a gweithio gyda helyg mewn Ysgolion.
28 Ionawr, 2011

Bydd y rheiny a fydd yn cymryd rhan yn y cwrs yn cael eu cyflwyno i sut y gellir tyfu a defnyddio helyg at ddibenion cwricwlwm.  Yn ystod y dydd, byddwch yn dysgu sut mae gwneud amrywiaeth o brosiectau awyr agored ar gyfer plant yn addas ar gyfer plant o bob oed. Bydd canllawiau ysgrifenedig cyflawn yn cael eu darparu ar gyfer pob un a fydd ar y cwrs.

Garddio Bywyd Gwyllt.    
15 Chwefror, 2011

Bydd y  cwrs hyfforddiant mewn swydd hwn yn edrych ar ffyrdd i annog gwell bioamrywiaeth  ar dir eich hysgolion, boed hynny mewn safle wledig neu drefol, a sut mae rheoli ardaloedd naturiol yn y cyfnod hir. Bydd yn edrych yn benodol ar ffyrdd o greu a chynnal cynefinoedd  fel coetir, dôl, gwlypdir neu byllau, sut mae cynnal arolygon er mwyn monitro bioamrywiaeth dros gyfnod o amser, pa blanhigion fydd yn denu bywyd gwyllt, a darparu llety ar gyfer adar, pryfed a mamaliaid.

Tyfu planhigion yn llwyddiannus ar gyfer y Cwricwlwm.        
11 Mawrth, 2011

Gan ganolbwyntio ar dyfu llysiau a phlanhigion synhwyraidd, bydd y cwrs  hyfforddiant mewn swydd hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn sefydlu a chynnal gardd lysiau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd y cwrs yn edrych ar gylchdroi cnydau, dewis hadau a lledaeniad, compostio  a chynaeafu.

Defnyddio Gardd yr ysgol i fwyhau y Cwricwlwm
29 Mawrth, 2011

Mae’n dibynnu pa syniadau r’ydych eisiau i’r clwb garddio, neu eich dosbarth, mae’r cwrs yma yn
rhoi digon o syniadau gweithgareddau am  flwyddyn gyfan yr ysgol.  Yn trafod DT, gwyddoniaeth, dearyddiaeth.

Blodau Enfawr a Chynhaliad Planhigion.          
11 Mai, 2011

Cwrs un dydd ar gyfer gwneud obelisg planhigyn mawr ar gyfer rhoi cynhaliaeth i ffa dringo a blodyn haul enfawr er mwyn creu nodwedd hardd mewn gerddi ysgolion

Pasteiod Mwd!
20 Mai, 2011

Datblygu sgiliau addysgu yn yr awyr agored  a darparu profiadau amgylcheddol hanfodol yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Gwaith gyda mwd, clai, brigau a cherrig ar dir yr ysgol.

Twristiaeth a Hamdden.
17 Mehefin, 2011

Ystadegau ar gyfer Biolegydd.
24th Mehefin, 2011