Trefnu’ch ymweliad
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor drwy gydol y flwyddyn:
Mae amryw o rhaglenni ar gael a arweinir gan ein staff addysgu neu gallwch ymweld â’r Ardd fel gr?p hunan arweiniol
Gallwn hefyd addasu ein rhaglenni er mwyn ateb anghenion unigol dimensiynau trawsgwricwlaidd.
I gael rhagor o wybodaeth neu er mwyn siarad ag athro, cysylltwch â’r Swyddfa Addysg ar 01558 667150 neu gallwch anfon e-bost at jrichmond@gardenofwales.org.uk
Mae’n rhaid i grwpiau ysgol a choleg fwcio o flaen llaw i fod yn gymwys i dalu y cyfradd gr?p.
Sut i drefnu ymweliad
E-bostiwch kbailey@gardenofwales.org.uk. neu
ffoniwch y Swyddfa Addysg ar 01558 667150 gan roi’r wybodaeth ganlynol:
- Enw’r ysgol a’r athro/athrawes sy’n gyfrifol
- Nifer o ddisgyblion ac oedolion
- Oed y disgyblion
- Dyddiad yr ymweliad (Sicrhewch fod gennych ddewis arall rhag ofn nad yw’ch dewis cyntaf ar gael)
- Math o ymweliad ? Rhaglen addysgol, ymweliad hunan-arweiniol neu gwrs arbenigol
- Rhaglen ddewisol (os yw’n briodol)
- Unrhyw ofynion arbennig
- Amser cyrraedd ac ymadael, bydd hyn yn gadael i ni gynllunio’ch ymweliad.
Os bydd y tywydd yn wael mae lle bwyta i gael o dan dô.
Cost (heb TAW) o Ebrill 1af 2009
|
Rhaglenni a arweinir
gan staff addysgus
|
Grwpiau hunan
arweiniol.
|
|
|---|---|---|
| Sylfaen (3 – 7 oed) | £4.00 (1) £5.25 (2) | £3.25 |
| CA 2,3,4 | £4.00 (1) £5.25 (2) | £3.25 |
|
16 oed a throsodd |
£4.75 (1) £5.50 (2) | £3.25 |
| Oedolion Ychwanegol | £4.00 | £4.00 |
Mae lleiafswm cost o £50 y gr?p ar gyfer Rhaglenni Addysgol.
Gall oedolion ddod yn rhad ac am ddim o fewn y cymarebau oedolion i blant canlynol;
- 1 oedolyn i 3 phlentyn (3-5 oed)
- 1 oedolyn i 5 plentyn (CA1)
- 1 oedolyn i 8 plentyn (CA2)
- 1 oedolyn i 10 plentyn (CA3,CA4 ac Addysg Uwch)
- Bydd cost o £4 i oedolion ychwanegol
Bydd disgyblion o dan gyfrifoldeb eu hathro/athrawes, a dylid eu goruchwylio bob amser ar y safle.
Sut i dalu
Wedi i chi drefnu, anfonwn lythyr o gadarnhad atoch ynghyd â manylion eich ymweliad. Anfonwn anfoneb i’r ysgol ar ôl eich ymweliad.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru tua 7 milltir o Gaerfyrddin. Mae’n ddigon hawdd ein cyrraedd trwy gymryd slipffordd o’r A48. Anfonwn fap gyda’ch llythyr gadarnhad, a gallwch ddod o hyd i fanylion ychwanegol yma.
Hygyrchedd
Mae’r Ardd wedi ei chynllunio fel ei bod yn cynnig mynediad hwylus i gadeiriau olwyn, ac mae’n hygyrch i bob ymwelydd, beth bynnag fo lefelau eu gallu.
Cymorth cyntaf
Mae yna ystafelloedd Cymorth Cyntaf sydd wedi eu cyflenwi’n llawn yn Y Porth, Y T? Gwydr Mawr ag yn y Cwrt Stablau.







