Cyfnod Sylfaen
Darllenwch ein Cylchlythyr Ysgolion Tymor y Gwanwyn 2013
Os hoffech chi wybod sut mae ein rhaglenni yn gysylltiedig â’r cwricwlwm, edrychwch ar ein Rhaglen Cysylltiadau Cwricwlwm.
Dyma’r rhaglenni rheolaidd yr ydym yn eu cynnig.
Antur Tedwen
Yn y rhaglen hynod o boblogaidd hon, rydyn ni’n gwahodd tedis eich plant i ymuno â Tedwen ar antur trwy’r dolydd a’r coedwigoedd i ddarganfod y Pwll Cudd. Ar yr antur hon, bydd y plant yn darganfod anifeiliaid cyfeillgar eraill a fydd yn eu haddysgu sut i oroesi yn yr Ardd trwy ddod o hyd i fwyd, diod a chysgod. Byddwn ni hyd yn oed yn canu amdano!
Ar gael drwy’r flwyddyn
Antur NEWYDD Tedwen
Dewch i weld Tedwen ac ymuno un ei hantur wrth iddi chwilio’r Ardd am ffrind arbennig! Mae’r rhaglen newydd hon wedi’i chynllunio er mwyn cyflwyno plant i wahanol fathau o berthnasau trwy ddefnyddio’r cymeriadau o anturiaethau poblogaidd Tedwen. Mae’n archwilio unigedd, bwlio, rhannu a chyfeillgarwch mewn ffordd ddiogel a rhadlon.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Ry’n ni’n mynd ar Helfa Arth
Archwiliwch rannau’r Ardd wrth i chi hela’r arth anodd ei ddal hwn! Caiff y plant eu herio i ddefnyddio eu synhwyrau wrth fynd ar antur o amgylch yr Ardd gan ddod â’r stori hon yn fyw.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Gwasgaru a Thyfu
Dysgwch am hadau a sut mae planhigion yn dechrau tyfu. Cymerwch gamau ymarferol – yn ystod eich ymweliad, dysgwch sut i wneud potiau a photio compost, plannu hadau blodau’r gwenyn a gofalu amdanynt tan eu bod yn blodeuo yn ôl yn eich ysgol.
Mae’r rhaglen hon yn cefnogi rhaglen bwyta’n iach ysgolion, rhaglen ailgylchu Eco ‘Sgolion ac mae’n annog plant i dyfu planhigion ar gyfer bywyd gwyllt.
Tymhorau yn yr Ardd
Ymwelwch â’r Ardd i brofi dechrau’r tymhorau ac i ddysgu am yr anifeiliaid a’r planhigion sy’n ymddangos i ddathlu eu cyrhaeddiad. Mae’r Ardd yn fwrlwm o liwiau, aroglau a seiniau. Mae’r gweithgareddau a’r gemau yn helpu’r plant i brofi’r hud – beth bynnag fo’r tywydd.
Tro Trwy’r Dŵr
Profwch ddŵr yn ei holl ogoniant! Dyma ddiwrnod diogel a chyffrous yn yr Ardd sy’n cynnwys archwilio ffynhonnau, rhaeadrau, cornentydd, pyllau, llynnoedd a cherfluniau dŵr. Archwiliwch arnofio, suddo a bywyd y pyllau.
Pastai mwd a phethau gwinglyd
Gall plant gael blas ar natur yn ein dosbarth awyr agored newydd gan wneud clau, adeiladu ffeuau a chwilio am fwystfilod bychain.
Rhaglenni Tymhorol
Nadolig o Ofalu a Rhannu
A fydd gan y Robin Goch ddigon i’w fwyta ar ddydd Nadolig?
Gan edrych ar bethau byw yn eu hamgylchedd eu hun ac mewn cyd-destun tymhorol, darganfyddwch sut i helpu’r Robin Goch a’i ffrindiau i oroesi’r gaeaf.
Crefftau’r Nadolig
Dewch i wneud Addurniadau’r Nadolig o ddefnyddiau naturiol a dysgu am wreiddiau rhai o’n traddodiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.
Gwneud y mwyaf o’ch ymweliad
Yn ogystal â rhaglen a addysgir,
Fe welwch y tŷ gwydr sydd â’r rhychwant sengl mwyaf yn y byd.
Profwch hinsawdd drofannol.
Ymwelwch â’r siop a’r Oriel Gelf.
Ewch i’r Wenynfa i weld y gwenyn.
Ewch ar Daith Gerdded yng Nghefn Gwlad Cymru.
Dewch â chinio iach a ellir ei ailgylchu.







