Ysgolion Uwchradd
“Yr ydym wedi trefnu sawl taith gyda myfyrwyr astudiaethau’r amgylchedd ond roedd ein hymweliad ddoe â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyda’r gorau. Fe aeth eich tîm allan o’u ffordd i gyflwyno profiad eithriadol i’n myfyrwyr.” Dr Chris Whalley, Coleg Gŵyr Abertawe, Ebrill 2011
Ar gyfer ysgolion uwchradd, mae gennym ystod eang o raglenni sy’n canolbwyntio ar:
- Darganfod trwy ddysgu gweithredol sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Sgiliau newydd
- Dysgu traws gwricwlaidd
- ADCDF
- STEM (gwyddoniaeth. technoleg, peirianneg a mathemateg)
- Bagloriaeth Cymru.
Edrychwch ar restr y fwydlen ar y chwith er mwyn gweld beth sydd gennym i’w gynnig ar gyfer y camau allweddol gwahanol.
Mae ein tîm o athrawon profiadol yn hapus i lunio rhaglenni arbennig i weddu i’ch gofynion penodol chi fel ysgol. Os ydych chi am siarad â ni am hyn, ffoniwch ni ar 01558 667150 neu e-bostiwch ni ar kay.bailey@gardenofwales.org.uk. Gall eich ymweliad yma fod yn un hunan-dywys.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, ffoniwch neu anfonwch e-bost. Fe wnawn ein gorau i’ch helpu.






