Cyfnod Allweddol 3
Os hoffech chi gael newyddion am yr hyn yr ydym yn ei wneud y tymor hwn, edrychwch ar ein Cylchlythyr Hydref 2012 i Ysgolion Uwchradd
Ceir ynddo newyddion am Bythefnos Marchnad Deg, celf amgylcheddol a fforestydd trofannol. Dyma raglenni rheolaidd ar gyfer Cyfnod Allweddol 3., gellir cysylltu’r rhain i gyd er mwyn darparu diwrnod llawn o weithgareddau a ddysgir yn yr Ardd.
Masnach Deg
Beth ydyw a pham y dylen ni ymwneud ag ef? Gan ddefnyddio casgliadau planhigion yr Ardd, mae’r gweithdy heriol hwn yn cysylltu’r cynhyrchydd a’r cwsmer ac yn delio â materion megis anghydraddoldeb, marchnadoedd byd eang a grym cwsmeriaid. Mae hyn yn archwilio’n weithredol y cysyniad o “Meddyliwch yn Fyd Eang. Gweithredwch yn Lleol’.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Cylchred Bywyd Planhigion Blodeuol
Gan ddefnyddio microsgopeg a dyrannu blodau archwiliwch y prif gamau yng nghylchred bywyd planhigion blodeuol i gynnwys pob agwedd ar beillio, ffrwythloni ac egino. Dilynwch dyfiant yr eginblanhigyn, trwy gamau llystyfol i aeddfedrwydd, cynhyrchu blodyn, ffurfio had a gwasgariad.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Bywyd mewn Pyllau
Ymchwiliwch gyd-ddibyniaeth organebau trwy archwilio ein hecosystemau dŵr croyw. Trwy gasglu ac adnabod anifeiliaid dŵr croyw o’n pyllau trochi, bydd disgyblion yn darganfod sut mae gwahanol anifeiliaid yn symud, anadlu a bwydo. Bydd y wybodaeth a gesglir gan y disgyblion, ynghyd â deunydd cefnogol a ddarperir gennym ni, yn galluogi dosbarthiadau i ddychwelyd i’r ysgol lle gallan nhw adeiladu cadwyni bwyd a gweoedd, adeiladu pyramidiau ecolegol a diagramau llif egni syml.
Ar gael Ebrill – Hydref
Addasiadau Planhigion
Sut mae planhigion wedi esblygu i ymdopi â gwahanol hinsoddau ar draws y blaned? Pam fod gan rai ddail blewog neu ochrau isaf o liw coch llachar neu’n arogli fel pysgod wedi pydru? Beth yw esblygiad cydgyfeiriol?
Archwiliwch ein Tŷ Gwydr Mawr, y Tŷ Trofannol a’r gerddi addurnol i ddarganfod sut mae hinsoddau Canoldirol, trofannol a thymherus wedi effeithio ar addasiadau planhigion dros fil o flynyddoedd.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Cyflwyniad i Dechnegau Ecolegol
Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio cwadratau a thrawsluniau er mwyn samplo’r dolydd blodau gwylltion yn ein Gwarchodfa Natur Waun Las, a chymryd taith dywysedig o amgylch rhai o’i 400 erw er mwyn edrych ar wahanol gynefinoedd a darganfod ychydig o’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Bydd y rhaglen yn defnyddio geiriau allweddol, ac allweddau adnabod.
.Ar gael Ebrill – Medi
Beth ar y Ddaear yw Cynaladwyedd?
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio gwahanol agweddau ar gynaladwyedd, y materion y mae angen i ni ymwneud â nhw a sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth i’n dyfodol cynaliadwy. Mae’n pwysleisio i ddisgyblion bod eu penderfyniadau yn cyfrif. O’i gyfuno â’r Llwybr Cynaladwyedd, mae hwn yn ddelfrydol ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Llwybr Cynaladwyedd
Mynnwch daith o gwmpas yr ardd i edrych ar wahanol agweddau o ddatblygiad cynaladwyedd a sut yr ydym ni fel sefydliad yn mynd i’r afael â’r materion pwysig hyn ac yn minimeiddio unrhyw effeithiau negyddol. O’i gyfuno â’r rhaglen ‘Beth ar y Ddaear yw Cynaladwyedd?’ mae hwn yn ddelfrydol ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Planhigion a Meddyginiaeth Trwy’r Oesoedd
Darganfyddwch hanes meddyginiaeth a’r rôl bwysig y mae planhigion wedi’i chwarae yn yr hanes hwn. Bydd disgyblion yn darganfod y prif ddatblygiadau diwylliannol a gwyddonol allweddol, o’r cyfnod canoloesol hyd at y cyfnod modern, sy wedi arwain at wellhad clefydau a gwell dealltwriaeth o’r angen i hyrwyddo iechyd da. Gan ddefnyddio arddangosfa Meddygon Myddfai a Neuadd a Gardd yr Apothecari, archwiliwch ddatblygiad meddyginiaeth trwy’r oesoedd.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Dihangfa Grawnwinen
Allwch chi gynllunio ac adeiladu rafft gan ddefnyddio’r deunyddiau naturiol o gwmpas yr Ardd yn unig fydd yn gallu cario grawnwinen i lawr y ffrwd 200 metr a’i harbed rhag iddi gael ei gwasgu’n sudd. Mae’r gweithgaredd ymarferol hwn yn ardderchog ar gyfer datrys problemau a datblygu sgiliau. Fe ellir ei ddefnyddio fel rhan o’r Cwrs Dylunio a Thechnoleg neu fel gweithgaredd ychwanegol llawn hwyl i unrhyw un o’r rhaglenni eraill a gynigir.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Celf Amgylcheddol
Gall disgyblion ddod i greu darnau darfodedig o gelf amgylcheddol sy’n eu helpu hwy i feddwl am y byd naturiol a’u lle o’i fewn. Wrth gael eu hysbrydoli gan weithiau pobol megis Tim Pugh ac Andy Goldsworthy, bydd disgyblion yn cael y cyfle i gynllunio ac adeiladu darn o gelf gan ddefnyddio deunyddiau y deuir o hyd iddynt yn naturiol o gwmpas yr Ardd. Yr ydym yn annog disgyblion ac athrawon i ddod a chamerâu i dynnu lluniau o’r darnau hynny a gwaith celf arall o gwmpas yr Ardd.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Bwyd a Milltiroedd Bwyd
Beth yw effaith amgylcheddol siopa wythnosol nodweddiadol? Bydd y rhaglen hon yn codi ymwybyddiaeth disgyblion o faterion lleol a byd eang, yn faterion dynol ac amgylcheddol, sy’n effeithio’r bwyd y byddwn yn ei brynu. Gan ddefnyddio casgliadau planhigion economaidd yr Ardd, daw disgyblion i weld ble a sut y cynhyrchir eu bwyd ac fe’u hysgogir i feddwl am y dewisiadau moesegol ac amgylcheddol sy’n agored iddynt.
Ar gael drwy’r flwyddyn
Ymweliadau Grŵp Hunan-Dywys
Daeth yr Ardd yn lleoliad poblogaidd iawn ar gyfer prosiectau celf ac ar gyfer ysgrifennu creadigol a barddoniaeth. Mae harddwch yr Ardd ac arwyddocâd byd eang ein gwaith cadwraeth yn darparu amgylchedd cyffrous a dilys i ddisgyblion i fod yn rhan o ddehongliad creadigol o’r Ardd.
Gall ysgolion ddod fel grŵp hunan-dywys ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, rhai ohonyn nhw wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfeydd Celf neu lwybrau ymwelwyr tymhorol sy wedi’u cysylltu â’n casgliadau o blanhigion.







