Acacia sp. – Wattle Trees – Draenen yr Aifft
Acacia sp. – Wattle Trees
Region: Australia
Much of the herbal knowledge of one of the oldest races in the world is lost. But some of the few things we know of the pre-colonization medicinal practice of the Australian aborigines is the use of wattle for skin problems such as boils & scabies.
- In central & northern Australia patients with nervous conditions are treated by indusing profuse sweating brought on by lying on a hot coal bed covered with acacia branches.
- Acacia bark is an astringent making it suitable for making an infusion gargles for sore throats & controlling diarrhoea.
- The gum that exudes from the stem and branches is dried & powdered and is used for binding food & in the preparation of pharmaceutical drugs. If you go to our Apothecary’s Hall, look for this gum in the acacia drawer.
- If you want to watch a short pretty music video about ‘The Wattle’ click here http://www.youtube.com/watch?feature=endscreen&NR=1&v=ZYTzTwVg_RU
Acasia sp. – Draenen yr Aifft
Rhanbarth: Awstralia
Mae llawer o’r wybodaeth lysieuol am un o hiliau hynaf y byd wedi’i cholli. Ond un o’r pethau prin a wyddom am arfer meddygol cynfrodorion Awstralia yn y cyfnod cyn gwladychu yw’r defnydd o Ddraenen yr Aifft i drin problemau’r croen fel crawniadau a chlefyd crafu.
- Yng nghanolbarth a gogledd Awstralia, caiff cleifion â chyflyrau nerfol eu trin drwy orwedd ar wely o lo poeth wedi’i orchuddio â changhennau o acasia er mwyn gwneud iddynt chwysu.
- Mae rhisgl acasia yn cynnwys nodweddion tynhau sy’n golygu ei fod yn addas ar gyfer gwneud trwythau i’w garglo i drin dolur gwddf a rheoli dolur rhydd.
- Caiff y gwm sy’n gollwng o’r coesyn a’r canghennau ei sychu a’i droi’n bowdr ac yna caiff ei ddefnyddio i ddal bwyd at ei gilydd ac wrth baratoi cyffuriau fferyllol. Os byddwch yn mynd i Neuadd yr Apothecari, chwiliwch am y gwm hwn yn y blwch acasia.
- Os hoffwch wylio fideo cerddoriaeth byr am Ddraenen yr Aifft, cliciwch yma http://www.youtube.com/watch?feature=endscreen&NR=1&v=ZYTzTwVg_RU






